Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
13 Gorffennaf 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(30 munud)
(5 munud)
NDM6076 Elin Jones (Ceredigion)
Bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
Yn cytuno y caiff y Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth Wrth Gefn, a sefydlwyd ar 28 Mehefin 2016, ei ailenwi'n Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol.
(5 munud)
NDM6078 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol David J Rowlands (UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Busnes yn lle Mark Reckless (UKIP Cymru).
NDM6079 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Michelle Brown (UKIP Cymru) yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn lle Mark Reckless (UKIP Cymru).
NDM6081 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Nathan Gill (UKIP Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Polisi a Deddfwriaeth wrth Gefn yn lle Michelle Brown (UKIP Cymru).
(60 munud)
NDM6027
Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Lee Waters (Llanelli)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
Jeremy Miles (Castell-nedd)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod y swm o arian a gaiff ei wario gan y BBC ar
raglenni Saesneg ar gyfer Cymru wedi disgyn 25 y cant yn y degawd
diwethaf.
2. Yn credu bod
gan BBC Cymru ran hanfodol i'w chwarae o ran adlewyrchu bywydau,
uchelgeisiau a heriau pobl Cymru.
3. Yn nodi cyfaddefiad yr Arglwydd Hall bod y cyllid ar gyfer cynnwys Saesneg a gaiff ei wneud yng Nghymru ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru wedi gostwng i lefelau anghynaliadwy, ac felly'n galw ar y BBC i amlinellu'n fanwl beth yw ei ymrwymiadau gwario o ran Cymru yn y dyfodol agos a'r dyfodol pellach.
(60 munud)
NDM6077 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r addewidion a wnaed i bobl Cymru gan y rhai a oedd yn ymgyrchu i'r DU dynnu allan o'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod yr addewidion hynny yn cael eu cyflawni ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:
a) bod £490 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn cael ei roi i GIG Cymru;
b) y caiff lefel y cyllid a gaiff Cymru o raglenni'r UE ar hyn o bryd ei chynnal;
c) y bydd y cymorth taliadau uniongyrchol a gaiff ffermwyr Cymru yn gyfartal, os nad yn uwch na'r hyn a ddaw drwy'r Polisi Amaethyddol Cyffredin; a
d) bod hawl dinasyddion yr UE adeg Brexit i aros yn y DU heb ofn na rhwystr, yn cael ei warantu.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
bod yr holl drefniadau cyllido yn y cyfnod wedi Brexit yn cael eu seilio ar fframwaith cyllido teg ac ar ddiwygio Fformiwla Barnett yn sylweddol.
(60 munud)
NDM6075 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi can mlynedd ers Brwydrau'r Somme, Coed Mametz a Jutland.
2. Yn rhoi teyrnged i'r rhai a ymladdodd yn y brwydrau hyn a brwydrau eraill yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
3. Yn anrhydeddu'r cof am y rhai a gollodd eu bywydau a'r rhai a anafwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a gwrthdrawiadau arfog eraill.
4. Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o gefnogaeth i luoedd arfog a chymuned y cyn-filwyr yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad, gan gynnwys drwy:
a) sefydlu Comisiynydd y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr, i flaenoriaethu eu hanghenion penodol hwy;
b) cyflwyno Cynllun Cerdyn Cyn-filwyr i ymestyn breintiau i
gyn-aelodau'r lluoedd;
c) rhoi rhagor o gyllid i wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru, i wella ei gapasiti a gwella ei allu i gynorthwyo cyn-filwyr sydd mewn angen; a
d) gwella prosesau casglu data er mwyn: sefydlu beth yw anghenion iechyd cyn-filwyr; canfod y cymorth sydd ei angen ar eu teuluoedd a'u gofalwyr; llywio darpariaeth gwasanaethau a chomisiynu; a thynnu sylw at yr ymgysylltu sydd ei angen â phobl yn y lluoedd arfog, sy'n gwasanaethu a / neu wrth iddynt drosglwyddo i fywyd y tu allan i'r lluoedd arfog.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 -Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 4 dileu "bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru roi mwy o gefnogaeth i luoedd arfog a chymuned y cyn-filwyr yng Nghymru yn ystod y Pumed Cynulliad, gan gynnwys drwy" ac yn ei le rhoi "y dylai Llywodraeth Cymru ystyried".
(30 munud)
NDM6074 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Diwallu anghenion tai Cymru: Angen rhagor o gamau i gynyddu'r cyflenwad tai.
(30 munud)
NDM6059 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru)
Mae angen ein hundebau arnom fwy nag erioed
Edrych ar waith yr undebau yng Nghymru o ran mynd i'r afael â
llymder ac annog mwy o aelodaeth a chefnogaeth i
undebau.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Medi 2016